Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (260) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2-15. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.18
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yng Nghymru - TYNNWYD YN ÔL
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Bathodynnau Glas
Dechreuodd yr eitem am 14.27
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Diweddariad ar Her Ysgolion Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14.43
6 Trefn ystyried gwelliannau'r Bil Cynllunio (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.25
NDM5745 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Cynllunio (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) adrannau 2 – 55
b) atodlenni 1 – 7
c) adran 1
d) Teitl Hir
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM5743 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau diwylliannol a allai fod yn atal menywod o leiafrifoedd ethnig rhag rhoi gwybod am drais yn y cartref.
Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod nifer yr achosion gwrth-semitig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn y DU y llynedd.
Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ffigurau sy'n dangos bod 23.5 y cant o aelodau bwrdd cwmnïau FTSE 100 yn fenywod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
6 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad cynnydd am sut y bydd mesurau i sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw neu eu golwg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am astudiaeth d dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
28 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ymgorffori hyfforddiant ymwybyddiaeth ar sail rhyw ym mhob hyfforddiant proffesiynol Tystysgrif Addysg i Raddedigion a Meistr mewn Addysg a Gyrfaoedd i fynd i'r afael â stereoteipiau rhyw a helpu i greu amgylcheddau dysgu sy'n ymwybodol o ryw ar draws ysgolion Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5743 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014
2. Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau diwylliannol a allai fod yn atal menywod o leiafrifoedd ethnig rhag rhoi gwybod am drais yn y cartref.
3. Yn nodi â phryder bod nifer yr achosion gwrth-semitig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn y DU y llynedd.
4. Yn croesawu ffigurau sy'n dangos bod 23.5 y cant o aelodau bwrdd cwmnïau FTSE 100 yn fenywod.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad cynnydd am sut y bydd mesurau i sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw neu eu golwg.
6. Yn galw am astudiaeth d dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ymgorffori hyfforddiant ymwybyddiaeth ar sail rhyw ym mhob hyfforddiant proffesiynol Tystysgrif Addysg i Raddedigion a Meistr mewn Addysg a Gyrfaoedd i fynd i'r afael â stereoteipiau rhyw a helpu i greu amgylcheddau dysgu sy'n ymwybodol o ryw ar draws ysgolion Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
8 Dadl ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Dechreuodd yr eitem am 15.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5744 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ar ôl 'Llywodraeth Cymru', mewnosod:
'ond yn gresynu at y diffyg uchelgais ynddo.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
28 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o fewn gweddill tymor y Cynulliad hwn a fydd yn ei gwneud yn ofynnol bod holl staff meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
28 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5744 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
2. Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol yn dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
|
|
|
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
9 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 16.35
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 29 Ebrill 2015